(Welsh Translation of H. G. Wells The Time Machine) Cydnabyddir H.G. Wells fel un o brif ffigyrau cynnar ffuglen wyddonol, mewn unrhyw iaith. Ysgrifennodd dros bum deg o nofelau ac chyfrir y enwocafohonynt, gan gynnwys The Time Machine, The Island of Doctor Moreau, The Invisible Man, The War of the Worlds ac When the Sleeper Wakes, ymhlith y straeon mwyaf enwog a phoblogaidd erioed. Cafodd ei enwebu bedwar gwaith ar gyfer wobr Nobel mewn llenyddiaeth. "Eiliad yn ddiweddarach roedden ni'n dau'n wynebu ein gilydd, minnau a'r creadur bregus hwn o'r dyfodol. Daeth yn syth ataf i, a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe'm trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl." Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gŵr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grŵp o'i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn, mae'n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i'r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys, o'r golwg. Ond pam felly bod popeth i'w weld mewn adfeilion? A beth sy'n llechu dan wyneb y byd rhyfedd newydd hwn? Nofel gyntaf Herbert George Wells, heb os, yw un o'r portreadau enwocaf o'r dyfodol mewn ffuglen, ac hyd heddiw, mae'n un o'r rhai mwyaf arswydus. Y cyfieithiad newydd hwn yw'r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd Y Peiriant Amser yn 1895 a hi oedd ei nofel gyntaf. Er nad hon oedd y nofel gyntaf i archwilio'r cysyniad o deithio mewn amser, hon sefydlodd y syniad o 'beiriant amser' yn y ddychymyg boblogaidd. Heb os, bu'n dylanwad ar Islwyn Ffowc Elis pan ysgrifennodd yntau Wythnos yng Nghymru Fydd, y nofel Cymraeg enwocaf am deithio mewn amser. (English Description) This new edition of H. G. Wells Science Fiction classic The Time Machine is the first time any of Wells' books have been made available in Welsh.
H.G. Wells
H.G. Wells was a prolific English writer best known for his science fiction novels. His most notable works include "The War of the Worlds," "The Time Machine," and "The Invisible Man." Wells' writing style was characterized by his imaginative storytelling, social commentary, and exploration of scientific concepts. He is often credited with popularizing the science fiction genre and influencing future writers in the field. "The War of the Worlds" remains his most famous work, depicting a Martian invasion of Earth and exploring themes of imperialism and the resilience of humanity. Wells' contributions to literature have had a lasting impact on the genre of science fiction and continue to be celebrated to this day.